Bywgraffiadau'r tîm

Content:

Prif ymchwilydd: Yr Athro Carol Tully, Athro Almaeneg, Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Bangor

Mae’r Athro Carol Tully yn Athro Almaeneg ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n adnabyddus yn rhyngwladol fel ysgolhaig ym maes cyfnewid diwylliannol Ewropeaidd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ganolbwyntio'n bennaf ar yr Almaen a Sbaen.  Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau, argraffiadau ysgolheigaidd, cyfieithiadau ac erthyglau mewn cyfnodolion, yn cynnwys Johann Nikolas Böhl von Faber (1770-1836): A German Romantic in Spain (2007) ac La devoción de la cruz, Pedro Calderón de la Barca / Die Andacht zum Kreuze, August Wilhelm Schlegel (2012). Bu’n Bennaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mangor am chwe blynedd o 2005-11 a hefyd yn Ddirprwy Bennaeth Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Ar hyn o bryd mae'n dal swydd Dirprwy Is-ganghellor (Myfyrwyr).


Cyd-ymchwilydd: Dr Heather Williams (Cymrawd Ymchwil), Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth

Mae Heather Williams yn gwneud gwaith ymchwil cymharol yn Astudiaethau Ffrangeg ac Astudiaethau Celtaidd. Ymunodd â staff y Ganolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd yn 2007 fel Cymrawd Hŷn Pilcher. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys ysgrifennu taith, yn enwedig mewn cysylltiad ag ôl-drefedigaethedd ac astudiaethau cyfieithu; teithwyr i Lydaw ac i Gymru o'r cyfnod Rhamantaidd ymlaen. Mae hi hefyd yn ymddiddori mewn cyfieithu a chyfnewid diwylliannol rhwng Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg a Llydaweg. Y mae hi wedi gweithio ar gyfieithu rhwng Ffrangeg a Llydaweg, yn enwedig yn yr 1830au, yr 1960au a’r 1970au, ac ar gyfieithu rhwng Cymraeg a Saesneg yn enwedig yn y 1790au. Mae ecofeirniadaeth,yn ddiddordeb arall, yn enwedig mewn cysylltiad â beirniadaeth ôl-drefedigaethol, ac yng nghyd-destun Llydaw a Chymru o’r cyfnod Rhamantaidd hyd heddiw, a hefyd Llydaw: y delweddau o Lydaw a geir mewn llenyddiaeth Ffrangeg ei hiaith, boed yn deillio o Lydaw neu o draddodiad llenyddol Ffrainc. Mae hi’n gweithio ar feirniadaeth lenyddol ôl-drefedigaethol yng nghyd-destun gwledydd a rhanbarthau Celtaidd, ac mae ei chyfrol Postcolonial Brittany: Literature Between Languages (2007) yn ymdrin â’r bwlch rhwng dwy iaith Llydaw fodern, trwy gyfrwng cyfres o ddarlleniadau manwl o weithiau llenyddol Ffrangeg sy’n cynnig delweddau o Lydaw neu o Lydewdod. Yn gyffredinol mae ganddi ddiddordeb mawr mewn barddoniaeth. Mae ei chyfrol Mallarmé’s Ideas in Language (2004) yn gyfres o ddarlleniadau agos o waith y bardd Ffrangeg o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg Stéphane Mallarmé. Gweler CAWCS am broffil ymchwil llawnach a rhestr gyhoeddiadau.   


Cyd-ymchwilydd: Dr Kathryn Jones (Darlithydd), Prifysgol Abertawe

Mae Dr Kathryn Jones yn Athro Cysylltiol Ffrangeg ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae’n dysgu ystod eang o fodiwlau ar hanes a diwylliant cyfoes Ffrainc a Francophonie, a modiwlau iaith Ffrangeg drwy gyfrwng y Gymraeg.   Mae wedi goruchwylio nifer o theses PhD ar lenyddiaeth Ffrengig ôl-drefedigaethol.  Dr Jones hefyd yw cyd-sefydlydd MEICAM ym Mhrifysgol Abertawe (grŵp ymchwil sy'n astudio  Ideolegau, Gwrthdaro a Chof Ewropeaidd).  Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar y ffordd y caiff gwrthdaro, cof a theithio eu cyfleu mewn llenyddiaeth a hanes diwylliannol Ffrengig ac Almaenig cyfoes, ac mae hefyd yn cwmpasu astudiaethau gender ac astudiaethau rhyngwladol.   Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys Journeys of Remembrance: Memories of the Second World War in French and German Literature, 1960-1980 (Legenda, 2007), a’r gyfrol Constructions of Conflict: Transmitting Memories of the Past in European Historiography, Literature and Culture (gyda Katharina Hall, Lang, 2011).   Mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ar y brotest ar 17 Hydref 1961 yn erbyn y rhyfel yn Algeria, ac erthyglau ar weithiau taith gan  François Maspero, Leïla Sebbar, Caroline Riegel, Anne Brunswic, Jorge Semprun a Charlotte Delbo. Mae hefyd wedi golygu rhifynnau arbennig o’r Journal of Contemporary European Studies ar ‘Memories of Conflict in “Eastern Europe” ’ (Ebrill 2009, gyda Nicola Cooper) a Nottingham French Studies ar ‘French and Francophone Women and Leisure’ (Mawrth 2013, gyda Nathalie Morello).     Yn ogystal â’r project ar y cyd ‘Teithwyr Ewropeaidd i Gymru’, mae’n gweithio ar hyn o bryd ar broject ymchwil o’r enw Gendered Journeys, sy’n edrych ar lenyddiaeth taith yn yr iaith Ffrangeg gan ferched yn yr ugeinfed a’r unfed ganrif ar hugain.      


Swyddog Ymchwil: Dr Rita Singer, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth

Cafodd Rita Singer PhD mewn astudiaethau Prydeinig o Brifysgol Leipzig yn 2013. Yn ei thraethawd ymchwil ‘Re-inventing the Gwerin: Anglo-Welsh Identities in Fiction and Non-Fiction, 1847-1914' mae hi'n olrhain sut y bu ysgrifenwyr o Gymru yn llenwi cysyniad y werin â gwerthoedd dosbarth canol Seisnig.  Cafodd y prosiect ei ariannu gan Sefydliad Academaidd Cenedlaethol yr Almaen (2009-12). Mae wedi cyfrannu penodau at flodeugerddi ar lenyddiaeth i oedolion ifanc, ac ar hunaniaeth Brydeinig yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae hefyd wedi cyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion rhyngwladol, yn bennaf, ar sut y câi lleisiau a hunaniaethau Cymreig eu cynrychioli mewn nofelau Saesneg yn ystod oes Victoria ac oes Edward. Hi yw golygydd y casgliad Britische Orientbilder: Auf Spurensuche zwischen Oxford und Oxiana (2013), sef cynnyrch prosiectau a wnaeth â myfyrwyr dros un semester yn 2013.  Mae wedi dysgu seminarau ar ffurfiau llenyddol, hanes Llenyddiaeth Prydain ers y cyfnod modern cynnar, y nofel hanesyddol yng Nghymru, sinema a theledu yng Nghymru, yn ogystal ag arolygon o ddiwylliannau Prydain a'r ddamcaniaeth feirniadol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gweithiau Cymreig iaith Saesneg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r cyfnod cyfoes, hanes y llyfr ymwelwyr yng Nghymru, y sinema ym Mhrydain, dychmygion gofodol a chynrychioli hunaniaethau cenedlaethol croes.


Efrydiaeth PhD ‘Literary Conceptions of Wales in Europe: 1750-2010: Christina Les, BA, MA, Prifysgol Bangor   

Ar ôl astudio Ffrangeg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Nottingham, symudodd Christina i ogledd Cymru chwe blynedd yn ôl i addysgu ieithoedd modern. Yn 2013 cwblhaodd MA mewn Astudiaethau Cyfieithu ym Mangor ac ymuno â'r prosiect “European Travellers to Wales”, gan ymchwilio i ganfyddiadau llenyddol o Gymru mewn gweithiau Ewropeaidd ers 1750. Mae'n canolbwyntio ar ffuglen gyfoes a ffuglen o’r ugeinfed ganrif sydd wedi eu lleoli yng Nghymru, ac mae ei deunyddiau’n cynnwys gweithiau poblogaidd o'r Almaen, o Hwngari ac o'r Iseldiroedd.

Mae ambell gysylltiad annisgwyl ag Ewrop wedi dod i'r fei, megis perthynas ddiwylliannol hir-sefydliedig rhwng Cymru a Hwngari, ond ar y cyfan mae a wnelo'r gweithiau hyn yn fwy â thirwedd Cymru na phobl, iaith a diwylliant Cymru. Caiff Cymru ei darlunio fel tiriogaeth anhysbys ar gyrion eithaf Ewrop lle gall bron iawn unrhyw beth ddigwydd. Mae'n wagle yr â pobl iddo i hunan-fyfyrio, yn hytrach nag i ymwneud â diwylliant a threftadaeth Cymru. Wrth symud ymlaen, mae Christina yn defnyddio theorïau tirwedd a lleoliad - gan gynnwys seicoddaearyddiaeth a 'barddoneg ddaearyddol' Kenneth White - fel fframwaith i'w chanfyddiadau.

 


Efrydiaeth PhD ‘Wales through European Eyes’: Anna-Lou Dijkstra, BA, MA, Prifysgol Abertawe

Ar ôl cwblhau ei B.A. mewn Astudiaethau Almaenig ym Mhrifysgol Utrecht yn yr Iseldiroedd, cafodd Anna-Lou Dijkstra M.A. mewn Astudiaethau Cyfieithu o'r un sefydliad yn 2013. Roedd ei thraethawd ymchwil yn edrych ar y berthynas gymhleth rhwng cyfieithu ac arddull, gan arwain at gyhoeddi yn Filter, cyfnodolyn Isalmaenig ym maes Astudiaethau Cyfieithu.

Maes o law fe symudodd i Gymru ble ymunodd â'r prosiect “European Travellers to Wales” fel myfyriwr PhD. Yn ei thraethawd ymchwil, roedd Anna-Lou yn edrych ar lyfrau teithio Almaeneg, Ffrangeg ac Iseldireg yn ymwneud â Chymru a gyhoeddwyd rhwng 1850 a 2010. Mae hi'n archwilio sut mae Cymru wedi cael ei chysyniadoli’n destunol fel cyrchfan wahanol i deithio iddi. Mae creu ffiniau daearyddol a diwylliannol dychmygol i amgáu Cymru a gwahanu'r wlad oddi wrth Loegr yn rhan greiddiol o'r gwaith. Ar yr un trywydd â'i gyrfa academaidd, mae hefyd wedi cyhoeddi erthygl yng nghyfnodolyn Translation Studies ynglŷn â llyfrau teithio wedi eu cyfieithu gan edrych ar y newid yn sut mae Cymru'n cael ei chynrychioli wrth gyfieithu.

Yn ogystal ag ysgrifennu ei PhD, mae Anna-Lou wedi gweithio fel tiwtor Almaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ddiweddar, symudodd i Gaerdydd, ac yno mae'n dysgu Almaeneg i raddedigion, ôl-raddedigion ac oedolion.


 

Bwrdd Ymgynghorol

Hoffem ddiolch i aelodau'r Bwrdd Ymgynghorol am eu cyfraniad i'r prosiect:

Dr Mary-Ann Constantine, Prof Robert Evans, Prof Charles Forsdick, Michael Freeman, Prof Katie Gramich, Prof Dafydd Johnston, Dr Alison Martin.