Teithwyr Ewropeaidd i Gymru

Y Prosiect

Beth yw ‘Teithwyr Ewropeaidd yng Nghymru’?

Mae ‘Teithwyr Ewropeaidd yng Nghymru 1750–2010’ yn brosiect tair blynedd a gyllidir gan yr AHRC ac a ddechreuwyd yn 2013. Yn y prosiect gwelir cydweithio rhwng Yr Athro Carol Tully o Brifysgol Bangor, Dr Kathryn Jones o Brifysgol Abertawe, a Dr Heather Williams o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Prifysgol Bangor sy’n ei arwain. Mae gan y prosiect Swyddog Ymchwil llawn-amser, Dr Rita Singer, wedi ei lleoli yn y Ganolfan Uwchefrydiau yn Aberystwyth, a dau fyfyriwr PhD, Anna-Lou Dijsktra (Abertawe) a Christina Les (Bangor).

Mae’r prosiect wedi dod ar draws nifer sylweddolo ddisgrifiadau o deithiau yng Nghymru yn y cyfnod hwn, y mwyafrif ohonynt wedi eu hysgrifennu mewn Ffrangeg neu Almaeneg. Cafodd llawer o’r disgrifiadau a restîr yn y gronfa ddata eu ‘cuddio’ mewn ysgrifeniadau am deithiau yn Lloegr. Ymchwiliodd y prosiect i amrywiaeth eang o ffynonellau, yn cynnwys taithlyfrau, arweinlyfrau, dyddiaduron, llythyrau a blogiau, mewn llawysgrifau a deunydd printiedig. Darganfu’r ymchwilwyr amrywiaeth mawr o resymau dros i deithwyr Ewropeaidd ddod i Gymru. Roedd rhai’n chwilio am ddihangfa ramantaidd ac eidylaidd, roedd eraill yn ysbiwyr diwydiannol yn oes Fictoria, ac yn ddiweddarach gwelwyd ffoaduriaid o’r Almaen Natsiaidd. Mae hyn yn ein helpu i ddeall Cymru’n well: mae storïau am ffoaduriaid ac alltudion wedi dod i’r amlwg, yn ogystal â stôr o ddisgrifiadau manwl am dirweddau, adeiladau a henebion ac adfeilion Cymreig. Mae’r rhain yn adnoddau hollol newydd ar gyfer astudio Cymru, ac yn genre ysgrifennu teithio i gynnwys mwy na phortreadau Saesneg yn unig o Gymru.

Dyma yw prif gyrraeddiadau’r prosiect:

  1. Cynnyrch academaidd. Mae’r testunau a ddaeth i’r golwg wrth wneud y prosiect wedi cael eu dadansoddi a thrafodwyd eu themâu mewn erthyglau mewn cyfnodolion, mewn rhifyn arbennig ar Gymru o’r cyfnodolyn Studies in Travel Writing, ac mewn papurau mewn cynadleddau academaidd. Yn ogystal, mae arweinwyr y prosiect yn cyflwyno arolwg o’r testunau allweddol a ysgrifennwyd gan deithwyr Ewropeaidd ac maent yn llunio eu casgliadau mewn llyfr a ysgrifennwyd ar y cyd ganddynt. Hefyd, cynhaliwyd cynhadledd dridiau lle’r edrychwyd ar y ffordd mae ysgrifenwyr teithio wedi ymdrin â lleiafrifoedd a’u portreadu.
  2. Cronfa ddata. Mae dros 400 o destunau teithio am Gymru mewn gwahanol ieithoedd Ewropeaidd (Frangeg ac Almaeneg yn bennaf), a oedd wedi mynd yn angof neu’n anhysbys cyn hyn, wedi cael eu nodi a’u cynnwys mewn cronfa ddata sydd ar gael i bawb. Mae hyn yn llawer mwy o destunau nag y rhagwelwyd yn wreiddiol ar ddechrau’r project hwn ac mae’n faes ymchwil newydd, cyfoethog i’w ddatblygu ymhellach.
  3. Arddangosfa o weithiau celf gan deithwyr Ewropeaidd yng Nghymru. Cafodd ‘EwrOlwg: Cymru drwy Lygaid Teithwyr Ewropeaidd, 1750–2015’ ei hagor i’r cyhoedd mewn tair amgueddfa ledled Cymru rhwng haf 2015 a 2016. Fe wnaeth Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth, Amgueddfa Abertawe a Storiel ym Mangor gefnogi’r arddangosfa deithiol drwy gynnig rhaglen ychwanegol o ddigwyddiadau am ddim i’r cyhoedd, megis darlithoedd, gweithdai i deuluoedd ac ymweliadau gan ysgolion. Cyfnerthir EwrOlwg gan adnoddau addysgol sydd ar gael am ddim, yn ogystal ag arddangosfa rithwir ar-lein.
  4. Adnoddau addysgol. Cafodd e-lyfr ar gelf gan ffoaduriaid ei gynhyrchu mewn cydweithrediad ag uned addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd hwn wedi’i anelu at ddisgyblion CA2 a CA3 ac wedi’i seilio ar ddeunydd yn yr arddangosfa.