EwrOlwg: Cymru drwy Lygaid Teithwyr Ewropeaidd, 1750–2015

EuroVisions Exhibition
Cliciwch ar y llun i weld yr arddangosfa ar-lein.

Ers canrifoedd mae pobl o gyfandir Ewrop wedi dod i Gymru am amryw o resymau. Yn ystod y cyfnod Rhamantaidd deuai rhai i chwilio am baradwys wledig, tra teithiai eraill yn oes Victoria fel ysbïwyr diwydiannol; ac mewn cyfnodau o ryfel dihangodd llawer o ffoaduriaid i Gymru i geisio lloches rhag erledigaeth. Yn y gweithiau celf a ardddangosir yma gan nifer o artistiaid Ewropeaidd gwelir Cymru yn ei holl amrywiaeth: tirluniau paradwysaidd, canolfannau diwydiannol a phortreadau o’r Cymry.

Roedd EwrOlwg ar agor i’r cyhoedd yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth o’r 11eg Gorffennaf i 27ain Medi 2015. Yn ogystal ag arddangosfa ryngweithiol sy’n addas ar gyfer y teulu cyfan, oedd yna sgyrsiau a gweithgareddau i bob aelod o’r gymuned.

Y digwyddiad cyntaf oedd ‘“Martyred Belgium”: The Belgian National Fete of 21 July 1915’ ar 21ain Gorffennaf 2015, 7pm yn Amgueddfa Ceridigion. Roedd Dr Rhian Davies, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gregynog yn cyflwyno sgwrs gyda lluniau o’r cerddorion Belgaidd amryddawn a ffodd i ganolbarth Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cynhaliwyd un o’u cyngherddau mwyaf trawiadol yn Theatr y Coliseum Aberystwyth (sef safle’r Amgueddfa heddiw) union gan mlynedd yn ôl.

Mae’r arddangosfa ar agor i’r cyhoedd yn Amgueddfa Abertawe, 16 Hydref 2015 tan 24 Ionawr 2016, a bydd hi’n teithio i’r Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor yn gynnar yn yr haf 2016.

Lleisiau o’r arddangosfa EwrOlwg

Exhibitions like these show that – even in a small way – there is hope. That maybe one day we will understand that we are all human, regardless of where you’re from.

Really enjoyed the exhibition, especially as we’re about to set off on a walk across Wales (Aberystwyth to Hay on Wye). Thanks!

Bendigedig! A very interesting exploration of visitors to Wales.

Fascinating exhibition – every piece telling a story – fascinating!

Extremely interesting. Didn’t realise how many European artists were included here – all influenced by beautiful Wales.

Gwerth chweil – yn falch fy mod wedi galw. Wedi ei drefnu’r dda a’r lluniau’n tynnu sylw – rhai ohonynt yn brydferth iawn.

I thought it was amazing. I would definitely recommend it to friends and family.

Very interesting and stimulating exhibition. Well worth the visit!

It’s a cool exhibition. =)