Defnyddio’r Gronfa Ddata
Mae’r gronfa ddata ‘Accounts of travel’ yn cynnwys crynodebau o gofnodion ar gyfer dros 400 o destunau taith am Gymru gan ymwelwyr Ewropeaidd o’r tu allan i Ynysoedd Prydain ers 1750. Lle bo modd mae’r cofnod yn rhoi’r wybodaeth ganlynol am y testun:
- dyddiad y daith
- gwlad frodorol y teithiwr
- pwrpas y daith
- nodiadau cryno ar gynnwys y testun
- yr ieithoedd y mae’r testun ar gael ynddynt
- gwryw / benyw
- math o destun (e.e. llyfr, dyddiadur)
Yn ogystal mae’r gronfa ddata yn plotio ar fap y lleoedd y bu pob teithiwr yn ymweld â hwy, a hynny ar sail tystiolaeth destunol. Mae pob cofnod yn rhestru awdur, teitl, cyhoeddwr a dyddiad cyhoeddi y ffynhonell, ac yn nodi’r cyfrwng (e.e. print, llawysgrif).