Diwylliannau ‘Lleiafrifol’ a Theithio, Aberystwyth, 14-16 Medi 2015
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 14-16 Medi 2015
Ar y cyd â Chyfnewidfa Lên Cymru ac Amgueddfa Ceredigion
Prif siaradwr: Yr Athro Michael Cronin (Prifysgol Dinas Dulyn)
Cyfweliad: Ned Thomas yn holi'r awdur Basgeg Kirmen Uribe
Yn y gynhadledd ryngddisgyblaethol hon cwestiynwyd y cysyniad o ddiwylliant ‘lleiafrifol’ gan fwrw golwg ar deithio a llên deithio. Yn y cyd-destun hwn, gellir deall y syniad cymhleth a dadleuol o ‘leiafrif’ fel un ieithyddol, diwylliannol, ethnig neu ddaearyddol-wleidyddol. Deilliodd thema’r gynhadledd o waith y prosiect gan ehangu ei rychwant i gwmpasu diwylliannau a elwir yn ‘lleiafrifol’ o bedwar ban y byd. Yng nghyd-destun y datblygiadau yn yr Alban a Chatalwnia, lle ail-drafodir hunaniaethau diwylliannol yng nghyswllt hegemoni gwleidyddol, yn ogystal â’r digwyddiadau yn Wcráin, lle mae hunaniaethau lleiafrifol gwahanol yn brwydro dros gydnabyddiaeth ddiwylliannol yn erbyn cefndir o orthrwm a difreiniad gwleidyddol, roedd y thema yn arbennig o dymhorol.
Archwiliodd y gynhadledd hon nodweddion y berthynas rhwng diwylliannau ‘lleiafrifol’ a theithio. Ei thema ganolog oedd cysylltiad teithwyr â’r lleoedd y maent yn ymweld â hwy a’u hymatebion i’w profiadau yn yr ‘ardal gyswllt’ (Pratt 1992) neu’r ‘ardal gyfieithu’ (Apter 2006). Sut y mae teithwyr yn meddwl am ac yn ymwneud â diwylliannau ‘lleiafrifol’? Sut y mae eu gweithiau yn adlewyrchu deinameg newidiol y berthynas rhwng y ‘canol’ a’r ‘cyrion’? Sut maent yn ymdrin ag anweledigrwydd posibl ac ansymudoledd tybedig diwylliannau ‘lleiafrifol’? I ba raddau y maent yn atgyfnerthu neu’n herio deuoliaethau hegemonaidd/ ‘lleiafrifol’, neu’n ystyried y berthynas rhwng diwylliannau ‘lleiafrifol’ a’i gilydd? Yn yr un modd, sut y mae hunaniaeth ddiwylliannol/ statws teithwyr o ddiwylliannau ‘lleiafrifol’ yn dylanwadu ar eu profiadau teithio a’r ffordd y maent yn ysgrifennu amdanynt? I ba raddau y gellir defnyddio teithio a genre llên deithio fel cyfryngau i alw am gydnabyddiaeth ddiwylliannol a gwleidyddol ar gyfer diwylliannau ‘lleiafrifol’ a’u gwneud yn fwy gweladwy? A oes modd adnabod traddodiad llên deithio sy’n gysylltiedig ag awduron o ddiwylliannau ‘lleiafrifol’? O fewn y math hwn o draddodiad, i ba raddau y mae angen rhoi sylw i ffactorau eraill sy’n nodweddu’r teithiwr, megis dosbarth a rhywedd?
Trathodwyd papurau o wahanol fframweithiau theoretig, cyd-destunau diwylliannol a chyfnodau hanesyddol gan ganolbwyntio ar amrywiaeth o ffynonellau testunol ac arteffactau gweledol, yn cynnwys llyfrau teithio, llythyrau, gohebiaeth, dyddiaduron, gweithiau llenyddol, celfyddyd gain a rhaglenni dogfennol.
Dyma rai o'r pynciau:
- Teithwyr o ddiwylliannau ‘lleiafrifol’
- Teithio mewn diwylliannau ‘lleiafrifol’ a chenhedloedd di-wladwriaeth
- Anweledigrwydd, hegemoni a globaleiddio
- Cysylltiadau rhwng diwylliannau ‘ymylol’
- Teithiau ac ieithoedd â defnydd llai
- Llên deithio a chyfieithu
- Astudiaethau ‘mudoledd’ (‘mobility studies’)