Canllaw Defnyddiwr
Nodyn ar y Mapiau
Mae’r mapiau’n ceisio ail-greu teithiau’r ymwelwyr mor gywir â phosib ar sail y wybodaeth a geir yn y testun. O ganlyniad, wrth fapio, ni roddwyd ystyriaeth i unrhyw wybodaeth ail-law sydd yn y testun, nac ychwaith i gyfeiriadau at leoliadau na fu’r teithwyr eu hunain yn ymweld â hwy.
Lluniwyd pob un o’r mapiau gyda chymorth GoogleMaps, sydd wedi gosod rhai cyfyngiadau ar y ffordd y cyflwynir y canlyniad terfynol. Er enghraifft, rhestrir enwau lleoedd, tirnodau a lleoliadau penodol yn bennaf wrth eu henwau Saesneg. Pan sonia’r teithwyr am nodweddion daearyddol mwy o faint, megis afonydd neu gymoedd, rhestrir rhain o dan yr adran ‘Additional Sites and Landmarks’, ynghyd â’r lleoliadau hynny na fu modd eu mapio, megis eglwysi penodol, cerfluniau neu wahanol adfeilion, gan nad yw eu lleoliadau wedi’u cofnodi yn GoogleMaps.
Mae’r mapiau’n caniatáu i’r defnyddiwr chwyddo’r llun i nesáu at leoedd unigol, yn ogystal â dewis rhwng delweddau lloeren sydd wedi’u labelu neu heb eu labelu, map o’r tir wedi’i luniadu neu fap stryd. Pan fo cyrchwr y llygoden yn hofran dros bin coch ar y map, egyr ffenest sy’n rhoi enw’r lle.
Pori a Chwilio’r Gronfa Ddata
Mae’r gronfa ddata yn caniatáu ichi bori’r cynnwys yn nhrefn yr wyddor, yn ôl cyfenw pob teithiwr, yn syml trwy ddilyn y cysylltiadau. Mae cofnodion sy’n arddangos seren fechan (*) yn rhai sydd dal ar y gweill, a fydd yn cael eu cwblhau a’u mireinio maes o law.
Am ganlyniadau mwy manwl, gellwch chwilio’r gronfa ddata yn ôl enwau’r teithwyr, dyddiadau teithiau, gwledydd brodorol y teithwyr, yr ieithoedd y mae’r cofnodion ar gael ynddynt, enwau lleoedd, tirnodau a’r math o gofnod. Nid yw’r meysydd chwilio yn gwahaniaethu rhwng maint llythrennau, felly does dim rhaid cychwyn enwau teithwyr, lleoedd na thirnodau â phriflythyren. Mae hi hefyd yn bosib defnyddio rhan o enw mewn chwiliad, yn enwedig pan fo’r enw yn cynnwys acenion, neu pan fo mwy nag un sillafiad.
Mae modd cyfuno ymholiadau er mwyn cyfyngu ar ganlyniadau chwiliadau. Er enghraifft, gellwch chwilio am ddogfennau o fewn dyddiadau penodol, ynghyd â gwlad frodorol teithiwr. Yn yr un modd, gellwch gyplysu mathau o gofnodion â lleoedd penodol.
Os ydych am ymchwilio pynciau sy’n cael sylw yn y testunau, defnyddiwch y termau Saesneg mewn llythrennau trwm a restrir isod:
- agriculture: amaethyddiaeth, anifeiliaid
- architecture: pensaernïaeth, disgrifiadau cyffredinol o bensaernïaeth a nodweddion penodol
- art: y celfyddydau cain, celfyddydau gweledol, celfyddydau perfformio, cerddoriaeth
- clothing: dillad, mathau penodol o wisgoedd a welwyd yn ystod taith
- customs: arferion a thraddodiadau, nodweddion penodol bywyd a diwylliant yng Nghymru a nodwyd gan y teithwyr
- diet: bwyd a diod
- history: hanes, hanesyddiaeth a diddordebau hynafiaethol
- industry: nodweddion diwydiannol a mathau o ddiwydiant
- language: yr iaith Gymraeg ac ieithoedd yn gyffredinol
- literature: llenyddiaeth, cyfeiriadau at lenyddiaeth daith
- people: y boblogaeth yn gyffredinol, pobl o ddiddordeb a theithwyr eraill
- politics: gwleidyddiaeth, systemau gwleidyddol a deddfwriaeth
- recreation: gweithgareddau hamdden
- terrain: tirwedd, nodweddion daearyddol, tirweddau a threfweddau
- transport: y rhwydwaith drafnidiaeth a dulliau o deithio
Cynnwys a ddarperir gan eraill
Lle bo hynny’n bosib, mae’r cofnodion yn cynnwys cysylltiad i fersiwn digidol o’r testun; mae’r rhain ar gael yn rhad ac am ddim ac wedi’u darparu gan gadwrfeydd allanol. Rydym yn gofyn yn garedig i ddefnyddwyr y gronfa ddata hon ddilyn y cysylltiadau hyn yn ôl eu doethineb, gan nad ydym yn cymryd cyfrifoldeb, ac nad ydym yn gyfrifol am unrhyw farn a fynegir nac am niwed a achosir gan gynnwys gan gyflenwr arall.